Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn dau ddigwyddiad ar wahân yn ninas Abertawe dros y penwythnos.

Fe fu’r digwyddiad cyntaf am tua 8yh dydd Sadwrn (Ebrill 21) ger Canolfan Ddinesig Abertawe, ac fe fu’r ail yn ddiweddarach yn y noson yn siop Tesco yn Heol Oystermouth.

Mae dau ddyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ddau ddigwyddiad, ac mae’r heddlu’n dal i chwilio am ddyn  a oedd yn rhan o’r digwyddiad ger Canolfan Ddinesig Abertawe.

Fe gafodd dyn 20 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata, a dyn 31 oed ar amheuaeth o achosi niwed corfforol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.