Cafodd beiciwr modur ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar o gerbydau ar briffordd yr A5 ger Capel Curig brynhawn ddoe.
Cafodd y beiciwr ei hedfan i ysbyty Stoke yn dioddef anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Fe fu’r briffordd ar gau am dros bedair awr wedi’r digwyddiad.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu trwy sgwrs fyw ar y we gan nodi cyfeirnod W051047.