Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi anrhydeddu Hefin Jones o Gaerdydd am ei gyfraniad ar hyd ei oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr ŵyl mewn seremoni arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Yn wreiddiol o Bencader, Sir Gaerfyrddin, graddiodd a chwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Llundain, ac mae’n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2000.

Yn ogystal â’i waith ymchwil ar effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth mae Hefin Jones wedi cyfrannu’n helaeth at amrywiaeth eang o gynlluniau gradd fel Ecoleg, Sŵoleg, Bioleg a Microbioleg.

Ers 2011 ef yw Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cadeirydd y Bwrdd Academaidd ac mae’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg.

Mae’n llais ac wyneb cyfarwydd ar radio a theledu, ac wedi ysgrifennu’n helaeth ar bynciau gwyddonol, gan gynnwys agweddau moesol datblygiadau gwyddonol, mewn cyhoeddiadau fel Cynefin, Dan Haul, Y Faner, Y Gwyddonydd a’r Tyst.