Yng Nghynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Llandudno, mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi adolygiad o’r ffordd y mae Llafur yn cynnal etholiadau mewnol gan gynnwys ethol olynydd iddo.

Fe fydd Adolygiad Democratiaeth Llafur Cymru yn cyflwyno adroddiad i’w cynhadledd y flwyddyn nesaf, a bydd y gynhadledd wedyn yn pleidleisio arno.

Mae pwysau cynyddol wedi bod o fewn y blaid am newid y drefn i un bleidlais i bob aelod. Y gred gyffredinol yw y byddai trefn o’r fath yn fanteisiol i’r rheini sy’n awyddus i ethol un o gefnogwyr Jeremy Corbyn fel olynydd i Carwyn Jones.

Drwy gyhoeddi’r adolygiad, mae Carwyn Jones yn gohirio unrhyw benderfyniad am newid am o leiaf blwyddyn.

Cynnydd mewn aelodaeth

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae ein haelodaeth wedi codi’n sylweddol,” meddai.

“Rhaid inni edrych ar sut mae ein plaid yn gweithio, sut rydym yn gwneud polisi, sut ydym ni’n trefnu a sut ydym yn cynnal ein hetholiadau mewnol gan gynnwys etholiadau arweinydd a dirprwy arweinydd.

“Fe fydd Adolygiad Democratiaeth Llafur Cymru yn adrodd i’r Gynhadledd y flwyddyn nesaf – a gan y Gynhadledd fydd y penderfyniad terfynol.

“Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn gael hyder llwyr bod ein strwythurau yn deg, agored ac yn addas i’r mudiad o filoedd o aelodau ydym bellach.”