Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir Ddinbych bore heddiw (Ebrill 20).

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i’r A543 rhwng Groes a Dinbych am tua 11 o’r gloch. Roedd y pâr ar gefn y beic modur, a gwnaethon nhw farw yn y fan a’r lle.

Mae’r beic modur wedi’i gofrestru mewn gwlad tramor, ac mae’n debyg ei fod yn teithio gyda phedwar beic modur arall tuag at Groes.

Roedd car Ford Focus yn teithio o gyfeiriad Dinbych, ac mae dau berson oedd ynddo wedi eu cludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw trwy alw 101 a dyfynnu’r cyfeirnod W050328.