Mae sylfaenydd cylchgrawn y Big Issue yn dweud bod angen mwy o waith cymunedol i drechu tlodi yng ngwledydd Prydain.

Roedd yr Arglwydd John Bird yn siarad â golwg360 mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan felin drafod y Sefydliad Bevan, yng Nghaerdydd, i ganfod ffyrdd o atal tlodi a digartrefedd.

Mewn oes o lymder a mwy o bobol yn cysgu ar ein strydoedd, dywed John Bird – a fu yn ddigartref am y tro cyntaf pan oedd yn bump oed yn Llundain – bod pobol wedi cael digon ar anghyfartaledd mewn cymdeithas.

Hefyd bu yn galw ar bobol i ddechrau mentrau cymunedol er mwyn lleihau unigrwydd a thlodi.

“Dw i’n credu bod y cyhoedd wedi cael digon ar yr anghyfartaledd, y diffyg cyfiawnder cymdeithasol, dw i’n credu bod ni’n mynd i weld newid gwleidyddol,” meddai’r Arglwydd Bird.

“Mae pobol yn sylwi bod dim rhaid iddi fod fel hyn… rydym yn methu pobol yn ein system addysg –  nhw wedyn yw’r bobol sy’n llenwi ein carchardai, y bobol ddi-waith, y bobol sy’n llenwi ein hadrannau brys, pobol sy’n ordew, sydd â phroblemau iechyd…

“Mae llawer o’r bobol dw i’n siarad â nhw wedi cael digon, a dw i’n credu bod yna fwy o weithredu cymdeithasol a mwy o weithredu gwleidyddol ar fin digwydd…

“Rhaid i ni ail-adeiladu ein cymunedau. Mae angen ail-ddyfeisio [cymdeithas] cydweithredol, mae angen rhannu pethau.

“Nawr yw’r amser i gymryd y cyfle i gael pobol i ddod at ei gilydd a chreu’r grymoedd gwleidyddol a chymdeithasol newydd.

“Dw i ddim jyst yn siarad am brotestio… dw i’n gredwr mawr mewn cael pobol i weithio yn gymdeithasol yn eu cymuned.”

Unigrwydd ar y stryd

Mae John Bird wedi treulio sawl cyfnod o’i fywyd yn ddigartref ac yn y carchar, a dywed ei fod wedi teimlo mor unig weithiau, nes ei fod wedi meddwl lladd ei hun.

“Dw i wedi bod yn unig iawn pan oeddwn i’n cysgu ar y strydoedd, ac roeddwn i’n teimlo’n hollol ynysig.

“Ar brydiau, roeddwn i’n meddwl i fi fy hun os yw’n werth byw. Bydden i ddim am i neb arall deimlo’n mor unig nes eu bod yn teimlo bod bywyd ddim yn werth ei fyw.”

Angen i gynghorau ‘wrthod torri’

Wrth gyfeirio at bolisi Llywodraeth San Steffan, galwodd yr Arglwydd Bird hefyd am ddod â llymder i ben, ac ar i gynghorau sir wrthod torri gwasanaethau.

“Llymder yw’r peth mwya’ drud a thwp i wneud i gymuned achos dydyn ni ddim yn gallu ei fforddio. Mae’n dinistrio cenhedlaeth,” meddai.

“Mae e am arweinyddiaeth – cael awdurdodau lleol i ddweud ‘dydyn ni ddim yn mynd i dorri gwasanaethau’… maen nhw’n mynd i orfod ceisio cael y gymuned y tu ôl i’r [gwasanaethau hynny].

“Ni yw’r rhai sy’n gallu newid pethau yn ein bywyd ein hunain.”