Mewn cyfarfod neithiwr yng Nghaerdydd i drafod ymateb S4C i’r adolygiad annibynnol i’w dyfodol, roedd awdur yr adolygiad, Euryn Owen Williams, yn gorfod gwrthod cyhuddiadau ei fod wedi “gwerthu mas i’r Torïaid”.

Roedd tri phrotestiwr o Gymdeithas yr Iaith yn y gynulleidfa yn noson Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru neithiwr [19 Ebrill], ac fe ddechreuon nhw weiddi “brad” cyn I Euryn Ogwen Williams ddechrau siarad ar y sgwrs banel.

Ond ar ddiwedd y noson, fe ddywedodd Euryn Ogwen Williams wrth golwg360 ei fod yn gwrthod y cyhuddiadau, gan ddweud bod “camddealltwriaeth” wedi bod ynghylch dyfodol perthynas S4C a’r BBC, ar ôl iddo argymell bod holl arian cyhoeddus y Sianel yn dod drwy’r ffi drwydded.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni y bydd S4C yn colli ei hannibyniaeth dan y drefn newydd.

Ymateb Euryn Ogwen

“Adroddiad annibynnol oedd hwn,” meddai Euryn Ogwen Williams wrth golwg360.

“Mi siaradais i efo ugeiniau o bobol ledled Cymru o wahanol gyfeiriadau. Ar sail beth ddywedon nhw a beth roeddwn i’n gweld, oedd y realiti oedd yn wynebu S4C, mi ysgrifennais i’r adroddiad… doedd neb wedi dweud wrtha’ i be’ i ysgrifennu.

“Mae’r [adroddiad] yn gwneud yr unig dri pheth roeddwn i’n meddwl oedd yn bwysig i S4C: bod yr annibyniaeth yna, bod neb yn mynd i ddweud wrthyn nhw be’ i wneud, bod nhw hefyd yn gorff ag arian sefydlog a bod ganddyn nhw hefyd y rhyddid i wneud pethau eraill.

“Dw i’n meddwl bod yna gamddealltwriaeth, oherwydd bod y BBC yn casglu’r ffi drwydded, mae pobol yn meddwl mai ffi drwydded y BBC ydy o. Ond ffi drwydded y Llywodraeth, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n penderfynu beth yw maint y ffi drwydded.

“Gwaith y BBC ydy ei gasglu o… mae yna bethau eraill yn cael cyfran o’r ffi drwydded, mae S4C yn cael cyfran yn barod, mae’r rhan fwyaf o’i harian yn dod o’r ffi drwydded beth bynnag.

“Does gan y BBC ddim cysylltiad efo’r arian yna sy’n dod i S4C. Arian S4C sy’n cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol ydy o.”

Aelodau eraill y panel neithiwr oedd Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C, Owen Evans, Prif Weithredwr S4C a’r Athro Ruth McElroy, oedd yn cadeirio’r drafodaeth.