Ar drothwy Cynhadledd Llafur Cymru, mae Carwyn Jones wedi galw ar bobol ledled y wlad i gydweithio â’r blaid.

“Dw i’n galw ar yr adain chwith ledled Cymru i weithio â Llafur Cymru i amddiffyn cymunedau, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, ac i herio’r Torïaid… ,” meddai’r Prif Weinidog.

Mae hefyd  wedi galw ar Aelodau Cynulliad, Cynghorwyr, Aelodau Seneddol ac Undebau Llafur i “gydsefyll” wrth wynebu “toriadau pellach gan y Torïaid” yng Nghymru.

Y gynhadledd

Bydd cynhadledd y blaid yn cael ei chynnal eleni yn Llandudno, ac yn para o ddydd Gwener (Ebrill 19) hyd at ddydd Sul (Ebrill 22).

Mae disgwyl hyd at 600 o ymwelwyr yno, gyda chynrychiolwyr o’r Blaid Lafur, undebau llafur, elusennau a melinau trafod yn cymryd rhan.

“Bydd y gynhadledd yma yn dangos Plaid Lafur Cymreig sydd yn cadw’n addewidion, a’n cadw’n driw i’n hegwyddorion,” meddai Carwyn Jones am y digwyddiad.