Mae dyn arall wedi’i gyhuddo yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar Ifan Owens yn Aberystwyth ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae Michael Arwyn Jones, 24, wedi’i gyhuddo o achosi niwed difrifol fwriadol ac o fod â chanabis yn ei feddiant.

Cafodd ei gyhuddo ar ddydd Llun (Ebrill 16) ac fe ymddangosodd gerbron llys ddydd Mawrth (Ebrill 17). Mae wedi’i gadw yn y ddalfa.

Cafodd y myfyriwr 19 blwydd oed ei ddarganfod yn anymwybodol yn y dref ar Ionawr 14, ac roedd mewn coma tan Chwefror 11.

Cyhuddiadau

Mae dau ddyn arall eisoes wedi’u cyhuddo o achosi niwed difrifol fwriadol: Andrew Raymond John Scott, 23, a Lee Anderson-Warnes, 20.

Mae’r cyntaf hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chanabis yn ei feddiant.

At y rheiny, mae David Lloyd, 25, a Bill Michael Valentine, 19, wedi’u cyhuddo o ymosod ar ôl gwrandawiad gerbron ynadon yn Hwlffordd.