Mae dyfarnwr rygbi gorau’r byd yng nghanol dwy ffrae, wrth iddo ddewis ymateb a herio sylwadau gan ddau enw mawr y gêm amdano ef ac am bobol hoyw.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Nigel Owens wedi bod yn herio’r cyn-chwaraewr a’r sylwebydd rygbi, Austin Healey, ynghyd â’r chwaraewr o Awstralia, Israel Folau.

Roedd y ddau wedi gwneud sylwadau ar faterion gwahanol, gydag Austin Healey yn ymosod ar Nigel Owens yn bersonol trwy gwestiynu ei allu fel dyfarnwr, ac Israel Folau wedyn yn dweud y dylai pobol hoyw fynd i uffern.

Dylai hoywon “fynd i uffern” – Israel Folau

Mae’r ffrae ag Israel Folau yn ymwneud â sylw a gafodd ei wneud gan cefnwr 29 oed ar ddechrau’r mis ynglŷn â’r ffaith y dylai hoywon “fynd i uffern”.

Roedd wedi dweud mewn neges ar y wefan gymdeithasol, Instagram, mai cynllun Duw ar gyfer pobol hoyw oedd “UFFERN – oni bai eu bod nhw’n troi o’u pechod, at Dduw”.

Wrth ei feirniadu, fe ddywedodd Nigel Owens fod y chwaraewr yn euog o hyrwyddo’r math o homoffobia sy’n rhwystro pobol ym myd rygbi rhag dod allan.

“Mae sylwadau fel rhai Israel Folau am bobol hoyw, a mathau eraill o fwlio gan bob math o bobol, yn ddigon i wthio nhw dros y dibyn,” meddai, “oherwydd mai yna leiafrif yn bod sy’n rhoi’r argraff nad ydych chi’n gallu bod yr hyn ydych chi go iawn”.

“Mae angen i bobol ddeall a pharchu pawb am bwy ydyn nhw…”

Ffrae 2 – “A ydi Nigel Owens yn rhy enwog i ddyfarnu?”

Daw’r ffrae gydag Austin Healey ar ôl i’r sylwebydd ddweud yn ei golofn yn The Daily Telegraph bod lle i gredu bod y dyfarnwr o Bontyberem wedi dod yn “rhy enwog” i ddyfarnu mewn gemau rygbi.

Dywedodd ei fod yn credu bod Nigel Owens yn well ddyfarnwr “pedair neu bum mlynedd yn ôl”, a hynny cyn iddo ddod mor enwog.

Ac wrth gyfeirio at y ffaith ei fod yn gyflwynydd ar y rhaglen Jonathan ar S4C, ynghyd â sgrifennu colofn i WalesOnline, fe gwestiynodd sut y mae hyn i gyd yn effeithio ar ei allu i ddyfarnu.

“A ydi hi’n bosib iddo fod yn ddyfarnwr enwog?” meddai Austin Healey. “A ydi e’n gallu fforddio bod mor uchel ei gloch ag y mae ar Twitter, neu wisgo i fyny fel leprechaun a Bob The Builder ar ei raglen deledu, a dal cael ei ystyried yn ganolwr annibynnol o ffaith?”

Fe ymatebodd Nigel Owens i’r sylwadau hyn yn ei golofn ar WalesOnline, lle dywedodd mai “casbeth” iddo oedd cael ei ystyried yn ‘ddyfarnwr enwog’.

Wrth ddweud hyn, dywedodd ei fod wedi dyfarnu yn ddiweddar mewn nifer o gemau cymunedol, gan gynnwys gem dan 9 oed rhwng Pontyberem a’r Tymbl – a oedd ymhell, meddai, o fyd y ‘dyfarnwr enwog’.

“Os bydda’ i’n dod at y pwynt lle dw i wirioneddol yn credu bod pethau eraill yn fwy pwysig, neu’n ymyrryd ar y ffordd dw i’n dyfarnu,” meddai, “yna fe fydd yn amser i mi rhoi’r gorau i bethau.

“Ond dyma’r gwrthwyneb. Mae dyfarnu i mi yn dod yn gyntaf, yn ail a thrydydd.”