Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo swyddogion addysg Cyngor Ynys Môn o “ruthro” i gau ysgolion yn y sir.

Brynhawn dydd Llun nesaf (Ebrill 23), fe fydd Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor yn trafod dyfodol ysgolion Corn Hir, Bodffordd a Henblas (Llangristiolus).

Ac yn ôl agenda’r pwyllgor, bydd yr ysgolion mwy na thebyg yn cael eu huno mewn rhyw ffurf – un opsiwn yw gosod y tair ysgol mewn un adeilad, y llall yw rhannu’r tri rhwng dau adeilad.

Mae’r mudiad iaith yn cyhuddo swyddogion o beidio ag ymgynghori’n iawn tros y cynlluniau, ac yn honni ei bod yn ceisio dod i gytundeb cyn i God Trefniadaeth newydd gael ei basio.

Pan fydd y Cod Trefniadaeth newydd mewn grym, mae’n debyg y bydd ysgolion gwledig yn cael eu hamddiffyn yn fwy.

Neges i weinidog

“Gofynnwn i chwi ymyrryd trwy ofyn i’r Cyngor ohirio penderfyniadau nes gweld eich Cod newydd,” meddai’r ymgyrchydd, Ffred Ffransis, mewn neges i’r yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.

“Awgrymwn i chi ddefnyddio cyfle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn eich etholaeth yn y Gymru wledig y mis nesaf i gyhoeddi ffurf derfynol y Cod newydd er mwyn atal ymdrechion pellach i gau ysgolion tra bo cyfle.”

Roedd disgwyl i’r cyfarfod gael ei chynnal ar Ebrill 9 ond cafodd ei ohirio tan wythnos nesa’. Mae golwg360 wedi gofyn i’r cyngor am ymateb.