Mae’r mudiad sy’n ymgyrchu am annibyniaeth, YesCymru, wedi gweld nifer ei aelodau yn cynyddu ers i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi y bydd yr ail Bont Hafren yn cael ei henwi ar ôl y Tywysog Charles.

Mewn pythefnos, mae 100 o bobol wedi ymaelodi â’r mudiad, ac mae sylfaenwyr YesCymru yn dweud mai penderfyniad Alun Cairns i ail-enwi’r bont, heb ymgynghoriad, yw un o’r rhesymau y tu ôl i’r ymchwydd.

Mae Ysgrifennydd Cymru yng Nghaerdydd heddiw i gynnal cyfarfod ag arbenigwyr ym maes busnes, ffermio a’r sector gwirfoddol i drafod Cymru wedi Brexit.

Ond bu’n rhaid canslo cyfweliadau â’r wasg ar y funud olaf am fod amserlen Alun Cairns yn “rhy brysur”.

Yn ôl y mudiad, mae’r ffaith fod Llywodraeth Prydain yn herio Llywodraeth Cymru yn y Goruchaf Lys dros ei bil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn rheswm pam fod pobol wedi ymuno.

Erbyn hyn, mae gan YesCymru, a gafodd ei sefydlu ym mis Chwefror 2016, 500 o aelodau sy’n talu’n flynyddol neu’n fisol ac mae dros 30 o grwpiau lleol ledled Cymru.

“Tanseilio datganoli”

“Mae ymddygiad y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn tanseilio datganoli wrth geisio cipio pŵer a ddylai ddod i Gymru pan fydd y Wladwriaeth Brydeinig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Iestyn ap Rhobert, Cadeirydd YesCymru.

“Pleidleisiodd pobl Cymru yn gryf o blaid y setliad presennol mewn refferendwm ’nôl yn 2011, felly mae’r hyn mae’r Ceidwadwyr yn ceisio’i wneud yn hollol annemocrataidd.

“Gyda dyfodol Cymru yn cael ei danseilio yn gyson gan y Llywodraeth Dorïaidd, credwn nawr fod rhaid i Gymru ystyried annibyniaeth o ddifri.

“Mewn arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan YesCymru ym mis Mai y llynedd, dangoswyd yn glir bod mwy a mwy o bobl yn agored i’r syniad o annibyniaeth i Gymru: roedd 26% o blaid.

“Mae’r gefnogaeth yn debygol o gryfhau mewn ymateb i’r ffordd mae’r Ceidwadwyr yn tanseilio ein deddfwrfa genedlaethol.”