Mae cynnig wedi’i basio gan Gyngor Sir Gâr i geisio sicrhau y bydd yr awdurdod yn troi’n ddiblastig.
Fe gafodd y cynnig ei gyflwyno ddoe (dydd Mercher, Ebrill 18) gan y Cynghorydd Liam Bowen o Blaid Cymru, a oedd am weld y sir gyfan yn rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig untro.
Roedd ei gynnig yn cynnwys:
o Lleihau’r defnydd o blastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor;
o Annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi’r gorau i ddefnyddio plastig untro;
o Hyrwyddo’r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy ym mhob digwyddiad sy’n cael ei gefnogi gan y Cyngor;
o Cefnogi digwyddiadau glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiad sy’n codi ymwybyddiaeth am broblemau plastig.
“Edrych ymlaen”
“Ychydig fisoedd yn ôl,” meddai Liam Bowen, “fe wnes i, fel nifer wylio Blue Planet 2 ar y BBC ac roeddwn wedi fy arswydo i weld yr effaith erchyll rydym yn ei gael ar ein hamgylchfyd naturiol.
“Rydym wedi ein bendithio gydag arfordiroedd prydferth yn Sir Gaerfyrddin, mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w hamddiffyn.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda swyddogion y Cyngor i sicrhau gweithrediad y cynnig,” meddai wedyn.