Mae llywodraethau’r Alban a Chymru wedi’u cyhuddo o geisio “rhwystro” ymgais i ddod â sicrwydd i wledydd Prydain wedi Brexit.

Daw’r sylw gan y Twrnai Cyffredinol, Jeremy Wright, diwrnod yn unig wedi iddo gyfeirio Mesurau Parhad y llywodraethau datganoledig at y Llys Goruchaf.

“Prif bwrpas y Mesur Ymadael… yw darparu sicrwydd ledled y Deyrnas Unedig ar ein diwrnod cyntaf tu allan i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (Ebrill 18).

“Ac mi fyddai’r Mesurau Parhad gan yr Alban a Chymru yn rhwystro’r amcan hyn.”

Dywedodd hefyd ei fod yn “parhau’n ffyddiog” y bydd trafodaethau rhwng y tair llywodraeth yn arwain at gytundeb rhyngddyn nhw.  

Mesurau Parhad

Cafodd y Mesurau Parhad eu pasio fis diwethaf, yn dilyn ffrae â Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros y Mesur Ymadael – mesur bydd yn dychwelyd pwerau yn sgil Brexit.

Pryder y llywodraethau datganoledig yw y gallai Mesur Ymadael San Steffan arwain at bwerau’n cael eu cipio rhagddyn nhw, ac mae’r Mesurau Parhad yn cael eu gweld fel rhwystr i hynny.