Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu o gymharu â blwyddyn yn ôl, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ym mis Chwefror eleni, roedd tai yng Nghymru yn werth £153,000 ar gyfartaledd – mae hynny’n gynnydd o 4.8% o gymharu â’r un mis y llynedd.

Roedd hyn dipyn yn is na’r cynnydd yn yr Alban, lle cododd prisiau tai gan 6.2% ar gyfartaledd. £144,000 oedd pris tŷ yno ar gyfartaledd, ym mis Chwefror.

Er hynny bu cynnydd is yn Lloegr (4.1%) a Gogledd Iwerddon (4.3%) – £242,000 a £130,000 oedd prisiau tai ar gyfartaledd yn y ddwy wlad ar ddechrau’r flwyddyn.

O holl ardaloedd gwledydd Prydain, Llundain oedd yr unig le lle bu cwymp ym mhrisiau tai (-1.0%).

“Darlun cymysg”

“Tros yr ardaloedd i gyd, mae yna ddarlun cymysg, gyda Llundain yn dilyn trywydd gwahanol i’r gweddill,” meddai Thomas Fisher, economegydd o PricewaterhouseCoopers.

“Rydym yn disgwyl i’r farchnad barhau fel y mae, ac mae disgwyl chwyddiant prisiau tai ledled y Deyrnas Unedig i fod yn 4% yn 2018.”

Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi ar y cyd rhwng y Swyddfa Ystadegau, y Gofrestrfa Dir, a chyrff eraill.