Mae pennaeth cwmni sydd wedi cynnal arolwg o ddiffyg menywod yn y diwydiant adeiladu yn dweud bod pryderon am y sefyllfa’n “ddi-sail”.

Mae adroddiad y arolwg yn tynnu sylw at ddiffyg menywod mewn swyddi caib a rhaw yng Nghymru – wrth i 79% o’r Cymry ddweud nad ydyn nhw erioed wedi cyfarfod â menyw sy’n gweithio fel trydanwr, plymwr neu adeiladwr.

O blith y rheiny, roedd 78% ohonyn nhw’n gwbl fodlon ar y gwasanaeth gawson nhw gan fenyw – wnaeth neb ddweud eu bod nhw’n anhapus.

Dywedodd 77% o’r rhai oedd wedi ymateb i holiadur Able Skills nad oedden nhw erioed wedi cael trafodaeth am weithio ym maes adeiladu, ac 89% yn dweud nad oedden nhw erioed wedi ystyried gweithio yn y maes.

Dywedodd 31% eu bod yn gofidio bod y maes yn un bygythiol i fenywod, gyda 27% yn ofni wynebu rhagfarn ar sail eu rhyw.

Serch hynny, mae 81% o’r Cymry’n dweud y bydden nhw’n hoffi gweld mwy o fenywod mewn swyddi o’r fath.

A menywod rhwng 25-34 yw’r rhai sydd yn fwyaf tebygol o fynd i weithio yn y maes, sy’n awgrymu y gallai’r ystadegau newid yn y dyfodol.

‘Gofidion di-sail’

Ond wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Able Skills, Gary Measures fod y pryderon sydd gan fenywod yn “ddi-sail”.

“Mae’r cyhoedd am weld mwy o fenywod yn y diwydiant adeiladu ac yn ymddiried ynddyn nhw i wneud gwaith da, sy’n profi bod pryderon menywod am gael eu cymryd o ddifrif a wynebu rhagfarn yn ddi-sail.

“Rydym wir am annog rhagor o fenywod i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu ac yn falch iawn o weld y gallai’r cenedlaethau iau dorri rhai o’r rhwystrau i lawr.”

Dywedodd mai dim ond 5% o hyfforddeion Able Skills y llynedd oedd yn ferched.

Mae Able Skills yn cynnig prentisiaethau i drydanwyr, plymwyr, gweithwyr nwy, plastrwyr, seiri, addurnwyr ac adeiladwyr.