Fe fydd cangen o fanc Lloyds ym Mhenybont-ar-Ogwr ymhlith y 49 o ganghennau fydd yn cael eu cau gan y cwmni ledled gwledydd Prydain.

Fe gyhoeddodd y cwmni bancio, Lloyds Banking Group, ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 17) y bydd cyfanswm o 1,230 o swyddi’n mynd ledled y Deyrnas Unedig, ond eu bod nhw’n gobeithio symud y rhan fwya’ o’r staff i swyddi gwahanol “lle bo hynny’n bosib”.

Yr unig gangen yng Nghymru fydd yn cael ei heffeithio yw’r un ar Stad Ddiwydiannol Penybont-ar-Ogwr, a fydd yn cau ei drysau am y tro olaf ym mis Medi.

Patrwm bancio yn newid

Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, maen nhw wedi gwneud y “penderfyniad anodd” hwn ym Mhenybont-ar-Ogwr oherwydd y newid ym mhatrwm bancio eu cwsmeriaid.

Maen nhw’n dweud bod 79% o’u cwsmeriaid naill ai’n defnyddio gwasanaethau canghennau eraill, neu’n bancio ar-lein neu dros y ffôn.

“Rydym ni’n ymddiheuro am unrhyw anhawster a fydd hyn yn ei achosi,” meddai.

“Fe all cwsmeriaid barhau i gael mynediad i’w bancio yn lleol trwy ymweld â’r Swyddfa Bost gyfagos, sydd ddim yn bell o’r gangen.”

Mae’r cam hwn yn golygu mai dim ond un gangen fydd gan Lloyds ar ôl ym Mhenybont-ar-Ogwr o fis Medi ymlaen, sef yr un ar Stryd Wyndham.