Mae’r ystadegau diweddara’ ar gyfer Cymru yn dangos diweithrda’n gostwng a nifer y bobol mewn gwaith ar dwf.

Yn ystod y tri mis rhwng Rhagfyr a Chwefror i 4.6% – 0.3% yn llai na’r ffigwr tros y tri mys cynt. Mae hynny’n golygu bod 70,000 yn dal i fod heb waith yng Nghymru.

Mae’r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau’n adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd trwy wledydd Prydain gyda diweithdra wedi syrthio i 4.2% yn gyffredinol.

Mwy mewn gwaith ond Cymru ar ei hôl hi

Yn ystod yr un cyfnod cynyddodd y nifer o bobol mewn gwaith yng Nghymru, unwaith eto gan 0.3%, sy’n golygu bod 73% o’r boblogaeth oed gweithio mewn swyddi – llawn amser neu ran amser.

Er hyn, o holl wledydd a rhanbarthau economaidd Prydain, dim ond Gogledd Iwerddon sydd â chanran is o bobol mewn gwaith na Chymru – y ffigwr yno yw 69.5%.

O gymharu â blwyddyn yn ôl, Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sydd wedi profi cwymp mewn nifer o bobol sydd mewn gwaith (-0.1%).