Mae mudiadau gwrth-niwclear wedi galw ar wleidyddion yng Nghymru i “ddeffro” i’r hyn sy’n digwydd yn y diwydiant niwclear.

Mewn datganiad ar ôl cyfarfod ym Machynlleth dros y Sul, maen nhw’n dweud y bydd datblygiadau niwclear yn Lloegr yn cael effaith ar Gymru yn ogystal â’r pryder sydd ganddyn nhw am ddatblygiadau yma.

Yng Nghymru, maen nhw’n gwrthwynebu:

  • Atomfa newydd yn Wylfa, Ynys Môn
  • Y posibilrwydd o adweithyddion niwclear bach yn Nhrawsfynydd
  • Awgrym y gallai llaid o ardal atomfa yn Lloegr gael ei roi ym Mae Caerdydd.

Mae’r datganiad hefyd yn tynnu sylw at atomfa newydd Hinkley Point yn union gyferbyn â de Cymru yng Ngwlad yr Haf ac yn dweud y bydd atomfeydd newydd yn Oldbury yng nghanolbarth Lloegr a Moorside yn Swydd Efrog yn cael effaith ar Gymru.

Ynni adnewyddadwy – mwy o swyddi

Roedd y cyfarfod hefyd yn galw ar wleidyddion ac undebau llafur i sylweddoli potensial ynni gwyrdd.

“Mae dwywaith yn fwy o swyddi mewn ynni adnewyddadwy nag sydd mewn ynni niclear,” meddai Dr Carl Clowes, a oedd yn y cyfarfod ar ran y mudiad PAWB (Pobol er Atal Wylfa B).

“Mae’n rhaid i’r undebau ddeffro i hynny, ac mae’n rhaid i’r pleidiau ddeffro i hynny… Mae’n rhaid deffro i’r ffaith bod gymaint o swyddi i gael, mwy o swyddi yn wir, a swyddi saffach a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

 

  • Y mudiadau yn y cyfarfod yn Senedd-dŷ Owain Glyndŵr ddydd Sadwrn oedd WANA, PAWB, CADNO, Greenpeace, Awdurdodau Lleol Di-niwclear, CND Cymru.