Mae ymdrechion ar droed i geisio denu pencadlys newydd Channel Four i Gaerdydd.

Ac fe allen nhw ymuno gyda’r BBC yng nghanol y ddinas lle mae adeilad newydd y Gorfforaeth newydd gael ei orffen.

Fe fydd BBC Cymru yn derbyn allweddi’r adeilad gan yr adeiladwyr heddiw gyda’r bwriad o symud yno o Landaf yn 2019.

Chwilio am ddinas

Ddoe fe ddechreuodd Channel Four ar y broses o chwilio am ddinas ar gyfer eu pencadlys newydd ac fe ddatgelodd Cyfarwyddwr y BBC yng Nghymru bod Caerdydd yn un o’r cystadleuwyr.

Fe ddywedodd Rhodri Talfan Davies fod Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio’n galed ar gais ac fe awgrymodd y gallen nhw ymuno gyda’r BBC yn natblygiad y Sgwâr Canolog.

“Dw i’n credu y byddai hynny’n ased ffantastig,” meddai, gan bwysleisio cymaint o adnoddau darlledu sydd yna bellach yn yr ardal.

Mae Caerdydd yn cwrdd â meini prawf sylfaenol Channel Four o ran maint a chryfder y diwydiant darlledu ac mae’r sianel yn bwriadu symud 300 o 800 o’u staff allan o Lundain.

‘Y mwya’ modern’

Yn ôl y BBC, eu datblygiad nhw yng Nghaerdydd fydd y mwya’ modern yn ngwledydd Prydain a’r mwya’ agored hefyd – gyda mynd a dod hawdd i’r cyhoedd a chwmnïau darlledu annibynnol.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi adroddiad gan gwmni ariannol sy’n awgrymu y gallai’r adeilad £100miliwn arwain at ddatblygiadau gwerth £1.1biliwn yn y ddinas.

Fe fydd gan S4C hefyd le yn y ganolfan newydd.