Does dim gwybodaeth bendant o hyd am drefniadau i roi croeso swyddogol yn ôl i dîm Cymru yng Ngêmau’r Gymanwlad

Y cyfan yr oedd llefarydd ar ran y Llywodraeth yn gallu’i ddweud wrth golwg360 oedd eu bod wrthi’n ystyried trefniadau posib.

Mae digwyddiadau i groesawu’r tîm yn ôl wedi cael eu cynnal yn y gorffennol ac mae disgwyl rhywbeth tebyg eto, o gofio mai dyma’r tîm mwya’ llwyddiannus erioed.

Y llwyddiant

Fe deithiodd tua 200 o athletwyr i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer gêmau eleni, ac fe lwyddodd y tîm i ennill 36 o fedalau gan gynnwys deg aur – y canlyniad gorau erioed i Gymru yn y gystadleuaeth.

Ymhlith y campau lle bu’r Cymry’n llewyrchus oedd athletau, beicio, bocsio, bowlio lawnt, codi pwysau, nofio a thenis bwrdd.

Trodd athletwyr Cymru am adre yn dilyn seremoni yn Stadiwm Carrara ar Ebrill 15.