Fe fydd yr Aelod Cynulliad lleol yn pwyso i sicrhau bod gweithwyr sy’n colli eu swyddi gyda chwmni Dunbia yng Ngheredigion yn cael “setliad teg”.
Yn ôl Elin Jones, mae’n “drueni mawr” fod gwaith pacio yn Felin-fach yn cau a bod y swyddi’n symud yn benna’ i Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin.
Ond roedd yn canmol y cwmni am ymgynghori gyda’r gweithwyr ac mae wedi cefnogi’r bwriad i wneud yn siŵr fod mwy na 100 o staff sydd eisiau symud i Cross Hnds yn gallu gwneud hynny.
Cynnig cefnogaeth
“Mae’n bwysig hefyd bod y rheiny sydd ddim eisiau symud neu sydd yn methu gwneud, yn cael cynnig setliad teg,” meddai Elin Jones.
“Fe fydda i yn cysylltu gyda’r cwmni er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, ac i gynnig fy nghefnogaeth i’r staff.”
Roedd pryderon ers tro y gallai’r gwaith yn Felin-fach gau wrth i Dunbia gael ei brynu gan gwmni Dawn Meats a oedd eisoes â chanolfan yn Cross Hands.
Ond, yn ôl y cwmni, methiant i sicrhau les newydd yn Felin-fach sy’n gyfrifol am y penderfyniad.