Mae’r Gymraes sydd â’r clod o fod y babi cynta i gael ei geni dan ofal y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol wedi dweud ei bod y n “torri ei chalon” i weld gwasanaethau’n dirywio.

Fe ddywedodd Aneira Thomas o Abertawe wrth gynhadledd flynyddol undeb Unison bod ei merch wedi gorfod aros i gael triniaeth i waedlif ar yr ymennydd oherwydd fod gorsaf ambiwlans ynghau dros nos.

“Dwy’r Gwasanaeth Iechyd ddim yn cael digon o arian, mae staff yn cael gormod o waith a rhy ychydig o gyflog ac mae gwasanaethau wedi’u torri,” meddai. “A’r Llywodraeth [Prydain] sydd wedi achosi hynny.

“Mae’r arian yno ond mae yna deimlad o ‘Dw i’n iawn’. Mae bywydau’n cael eu colli oherwydd yr hyn y maen nhw’n ei wneud.”

Geni ar ôl munud o’r gwasanaeth

Fe gyhuddodd nhw o fynd â’r maes yn ôl i’w gyflwr yn yr 1930au cyn creu’r gwasanaeth cenedlaethol a sicrhaodd ei bod hi’n cael ei geni’n ddigoel un munud wedi hanner nos ar Orffennaf 5, 1948, un munud wedi dechrau’r gwasanaeth.

Fe gafodd ei geni mewn ysbyty fwthyn yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin, a’i henwi ar ôl Aneurin Bevan, y Gweinidog Iechyd ar y pryd.

Fe awgrymodd fod nyrsys wedi dweud wrth ei mam am beidio â phwshio tan ar ôl hanner nos.