Mae datblygwyr tai’n anwybyddu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru wrth dynnu sylw at stadau newydd, yn ôl mudiad rhieni.

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi beirniadu sawl cwmni adeiladu am nodi’r ysgolion cyfrwng Saesneg lleol, ond nid y rhai cyfrwng Cymraeg.

Maen nhw’n dweud nad oes modd “cyfiawnhau difaterwch” y cwmnïau hyn at y Gymraeg, ac maen nhw’n enwi Bellway Houses, Redrow Houses, Persimmon Homes a Taylor Wimpey Homes ymhlith y rhai sy’n euog o hyn.

Mae’r rhain i gyd yn datblygu ac yn hyrwyddo ystadau tai yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Torfaen a Chasnewydd.

“Dddim yn dderbyniol”

“Dyw hi ddim yn dderbyniol rhoi camargraff mai addysg cyfrwng Saesneg yw’r unig ddewis sydd ar gael i deuluoedd sy’n ymgartrefu yn yr ystadau newydd hyn,” meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg.

“Mae’n anorfod bod canran uchel yn mewnfudo i Gymru, a mwy na thebyg, heb unrhyw syniad bod ganddynt ddewis arall o ran addysg eu plant.”

Mae Wyn Williams hefyd yn dweud bod yna “gwestiynau mawr” yn codi ynglŷn â pha gyfarwyddyd mae’r cwmnïau hyn yn eu cael gan lywodraeth lleol a Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo’r Gymraeg.

Roedd angen iddyn nhw wneud llawer mwy i hyrwyddo addysg Gymraeg ymhlith pobol sy’n dod i ddatblygiadau tai newydd, meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i bob un o’r cwmnïau tai, ynghyd â Llywodraeth Cymru, am ymateb.