Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi £10m i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn creu prentisiaethau Cymraeg.

Hynny oherwydd ffigurau sy’n dangos mai dim ond 0.3% o brentisiaethau – 140 o 48,345 – a gafodd eu gwneud trwy gyfrwng yr iaith yn 2014-15.

Mae hynny, meddai Cymdeithas yr Iaith, yn ffwgwr “chwerthinllyd” ac, yn y pen draw, maen nhw’n dweud y dylai’r arian godi i £22miliwn – sy’n cyfateb i ganran y bobologaeth sy’n gallu siarad Cymraeg.

Diffyg prentisiaethau Cymraeg

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd y byddai’n cynyddu ei buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111m – rhan o’i nod i ddarparu dros 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod o bum mlynedd.

Ddiwedd y llynedd hefyd, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, y byddai cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg yn ymestyn i gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau.

Ond pryder Cymdeithas yr Iaith yw nad oes arian ychwanegol wedi’i glustnodi i’r sefydliad er mwyn ei helpu i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector.

“Testun pryder mawr”

Mewn llythyr at Kirsty Williams, mae Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone, yn dweud bod y diffyg prentisiaethau Cymraeg yn “destun pryder mawr”, gyda’r ffigwr o 0.3% yn “chwerthinllyd o isel”.

“Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny’n gwbl gywir, ond mae’n rhaid hyfforddi ein pobol ifanc i allu weithio yn Gymraeg,” meddai.

“Wedi’r cwbl, mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol i bolisi iaith y Llywodraeth.

“Yn y byd sydd ohoni, mae gormod o bobol, gan gynnwys gweision sifil, yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg.”

Ymateb y Llywodraeth

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae swyddogion mewn cyswllt rheolaidd â Choleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae bwrdd ymgynghorol, sy’n cynnwys rheolwyr o’r sector FE, mewn lle i gasglu eu barn ar gefnogaeth y dyfodol i ddatblygu darpariaeth gyfrwng Cymraeg.”