Mae’r Adran Drafnidiaeth yn dweud y byddan nhw’n ystyried cais gan AS o Gymru am adran arbennig i ystyried damweiniau ffordd yng ngwledydd Prydain.

Mae’n dod ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden, a oedd wedi ei sbarduno gan farwolaeth merch ifanc leol a oedd yn hyfforddi i fod yn athrawes.

Mae’r AS yn dweud bod cyrff o’r fath yn bod ar gyfer damweiniau rheilffordd neu ddamweiniau ar y môr, er bod llawer rhagor yn cael eu lladd ar y ffyrdd.

‘Dysgu gwersi’

Fe fyddai corff Prydeinig yn gallu astudio damweiniau, adnabod patrymau a dysgu gwersi, meddai Jessica Morden.

Un o’r rhesymau tros yr ymgyrch oedd marwolaeth merch 21 oed o Landifog ger Casnewydd a’r ymgyrch y mae ei rhieni wedi ei chynnal ers hynny.

Fe gafodd Rhiannon Smith ei lladd mewn damwain car fis Mawrth y llynedd ar yr A48 rhwng Cas-gwent a Chasnewydd ac fe gododd Jessica Morden ei hachos yn y Senedd uniopn flwyddyn yn ddiweddarach.