Fe allai myfyrwyr nyrsio mewn dwy brifysgol yng Nghymru wynebu caledi mawr tros y misoedd nesa’, oherwydd camgymeriad mewn taliadau iddyn nhw.

Mae undebau a chorff proffesiynol y nyrsys wedi rhybuddio y gallai rhai roi’r gorau i astudio oherwydd y problemau.

Mae’r trafferthion yn effeithio ar fyfyrwyr mewn 20 prifysgol trwy Gymru a Lloegr – y rhai Cymreig yw Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr yn y Gogledd-ddwyrain.

Camgymeraid

Achos yr helynt yw fod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi talu gormod i’r myfyrwyr yn y gorffennol a’r peryg wedyn y bydd y myfyrwyr yn gorfod talu’r arian yn ôl, neu’n cael llai o arian, tros y cyfnod nesa’

Mae’r myfyrwyr yn pryderu y byddan nhw’n cael llai o arian yn ystod y misoedd nesa’ ac y gallai hynny achosi caledi mawr iddyn nhw.

Mae Undeb y Myfyrwyr, undeb Unison a Choleg Brenhinol y Nyrsys wedi sgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan yn gofyn iddo faddau’r gordaliadau.

‘Pwysau ariannol’

“Mae myfyrwyr yn dweud y bydd y peryg o gael taliadau llai, neu ddim taliadau o gwbl, yn peryglu eu gallu i barhau i astudio,” meddai’r llythyr.

“Mewn rhai achosion, rydyn ni’n clywed adroddiadau tryblus gan fyfyrwyr unigol sy’n ystyried rhoi’r gorau iddi oherwydd y pwysau ariannol yma.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg yn Llundain eu bod yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i sicrhau na fydd neb yn diodde’ caledi oherwydd y camgymeriad ac y byddan nhw’n cyhoeddi cynlluniau cyn bo hir.