Mae adroddiad newydd yn awgrymu y byddai palas brenhinol newydd yng Nghymru’n dod â £36m i’r economi.

Melin drafod Gorwel sydd wedi llunio’r adroddiad sy’n dweud y byddai’r fath adeilad yn denu miloedd o dwristiaid i Gymru ond yn cyfaddef y gallai gael ei ystyried yn ormodedd.

Yn ôl y BBC, mae’r awduron, yr Athro Russell Deacon a Scott Prosser yn dadlau y gallai hyd at 100 o swyddi gael eu creu yng Nghymru o ganlyniad i balas.

Maen nhw hefyd yn darogan y byddai Cymru ar ei hennill o £765,000-£3.6m o ddenu twristiaid yn sgil y teulu brenhinol, yn ogystal â £510,000-£2.4m ychwanegol o dwristiaid yn gwario arian yng Nghymru.

Serch hynny, mae’r Blaid Werdd wedi dweud bod y manteision yn cael eu gorbwysleisio.

Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig wlad heb gartref swyddogol i’r teulu brenhinol.

Adeilad

Mae nifer o adeiladau yng Nghaerdydd wedi cael eu crybwyll fel lleoliadau posib ar gyfer palas, gan gynnwys Neuadd y Ddinas a Gerddi Dyffryn.

Ond mae awgrym hefyd y gellid codi adeilad newydd sbon.

Wrth ymateb i’r awgrym, dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Grenville Ham y dylai’r teulu brenhinol godi tai cymdeithasol newydd sbon yng Nghymru yn lle palas.