Cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yw perchennog newydd caffi cymunedol Canolfan Soar ym Merthyr Tudful, wedi i’r lle bwyta fod ar gau dros dro.

Mae Jamie Bevan, o Ferthyr, oedd yn gadeirydd ar y mudiad iaith rhwng 2014 a 2016, yn gobeithio agor Caffi Soar ar 30 Ebrill.

Mae’n gobeithio cynnal digwyddiadau cyson yn y caffi a chyflogi pobol ifanc yr ardal i ddangos bod “gwerth” i’r Gymraeg.

Menter gymunedol

Menter gymunedol fydd hon, meddai, gyda’i holl elw yn mynd yn ôl i weithredu’r caffi.

“Byddwn ni’n cael brecwast i ddysgwyr unwaith y mis, lle mae dysgwyr yn gallu dod ar fore Sul a chael deal ar frecwast a choffi ac wedyn cyfle hefyd i siarad Cymraeg, nid jyst gyda dysgwyr eraill ond gyda siaradwyr Cymraeg naturiol,” meddai wrth golwg360.

“Mae sôn hefyd am ryw fath o glwb finyl lle mae pobol yn dod i chwarae recordiau a chyfnewid recordiau, a bydd hwnna i gyd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

“Dw i’n gweld y caffi fel cyfle i ddatblygu Cymreictod pobol ifanc hefyd. Dw i’n bwriadu gweithio gyda’r ysgol Gymraeg leol a’r coleg addysg bellach lleol er mwyn cael pobol ifanc mewn i weithio yn y caffi a defnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfa gwaith a thrwy hynny rhoi gwerth ar y Gymraeg iddyn nhw.

“Dw i wedi ennill y tendr ar sail fy mhrofiad i o ddatblygu a hyrwyddo’r iaith fel iaith gymunedol, dyna’r prif reswm dw i wedi cael e, er dw i’n gallu coginio hefyd!”

Bwydlen “syml, o ansawdd”

Jamie Bevan fydd yn gyfrifol am y fwydlen a’r coginio yn y caffi ac mae am baratoi “bwyd syml, o ansawdd.”

“Dw i wedi gwneud fy ngwaith ymchwil ac wedi bod o gwmpas caffis eraill mewn canolfannau celfyddydol fel Soar a dw i eisiau darparu bwyd syml, bwyd iachus i bobol cyn neu ar ôl i nhw ymgymryd â rhyw weithgaredd neu ddigwyddiad.”

Gwrandewch ar Jamie Bevan yn trafod y fenter newydd: