Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn “cefnogi” y cyrchoedd bomio yn Syria, ond fod angen cynllun gweithredu ar gyfer y wlad.

Roedd yn ymateb yn dilyn cyrchoedd awyr tros nos gan yr Unol Daleithiau gyda chymorth Prydain a Ffrainc, oedd yn canolbwyntio ar ddileu’r perygl o ymosodiadau cemegol.

Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones ei fod e wedi trafod y sefyllfa â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May nos Wener.

“Fe gynigiais fy nghefnogaeth i unrhyw ymyrraeth a allai atal rhagor o erchylltra, ond mae’n hanfodol fod unrhyw weithred yn rhan o gynllun tymor hir ar gyfer y rhanbarth.

“Rwyf wedi annog y Prif Weinidog i wneud popeth mae hi’n gallu ei wneud er mwyn osgoi anafu pobol gyffredin, o ystyried y darlun cymhleth ar lawr yn Syria, ac mae hi wedi rhoi sicrwydd i fi yn hynny o beth.

“Mae ein meddyliau heddiw gyda’r holl filwyr a phobol Syria sydd wedi dioddef y tu hwnt i bob mesur.”