Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio yn Llanelli, yn dilyn cyfres o gyrchoedd cyffuriau.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, roedd yna gynnydd ym mhresenoldeb y llu yn Llanelli ddoe (dydd Gwener, Ebrill 13).

Fe ddaethon nhw o hyd i werth tua £800 o’r hyn y maen nhw’n credu yw herion, a hynny mewn dau leoliad gwahanol.

Yr Old Lodge oedd y lleoliad cyntaf, lle cafodd powdwr brown mewn bagiau ei ddarganfod mewn Kinder egg.

Fe gafodd dau ddynes, 32 a 31 oed, eu harestio.

Ail achos

Yn Heol Penyfan, fe ddaeth yr heddlu o hyd i bowdwr brown oedd ar fin cael ei olchi i lawr toiled, ynghyd â rhagor ohono wedi’i guddio o gwmpas y lleoliad.

Fe gafodd dyn a dynes, 32 a 31 oed, eu harestio.

Mae’r pedwar, sydd wedi’u cyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant ac o’u masnachu, yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.