Mae Dafydd Meurig wedi’i benodi’n Ddirprwy Arweinydd newydd Cyngor Gwynedd.

Daw hyn ar ôl i Mair Rowlands roi’r gorau i’r swydd wedi iddi gael ei phenodi’n gyfarwyddwraig  Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Mae Dafydd Meurig wedi bod yn gynghorydd tros ward Arllechwedd yn Nyffryn Ogwen ers 2011, ac mae’n aelod o’r cabinet ers 2015, lle roedd yn gyfrifol am faes cynllunio, trafnidiaeth a gwarchod y cyhoedd.

Mi fydd yn parhau’n gyfrifol am faterion yn ymwneud ag amgylchedd wrth ymgymryd â’i swydd newydd.

“Darparu’r gwasanaethau gorau posib”

 Wrth gael ei benodi, mae’n dweud ei bod “yn fraint ac anrhydedd” iddo.

“Rwy’n edrych ymlaen i gynorthwyo gyda’r gwaith i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i bobol Gwynedd,” meddai.