Bydd dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o ymosod ar fyfyriwr yn Aberystwyth ar ddechrau’r flwyddyn, yn ymddangos gerbron llys ar ddydd Gwener (Ebrill 13).

Bydd David Lloyd a Bill Michael Valentine yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli, yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar Ifan Owens ar Stryd Uchel  y dref, yn ystod oriau mân y bore, Ionawr 14.

O’r tri dyn arall a gafodd eu harestio yn gysylltiedig â’r digwyddiad, mae un dyn yn parhau i fod ar fechnïaeth tra bod dau arall wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Cefndir

Cafodd  Ifan Owens, 19, ei ddarganfod yn anymwybodol yn ystod oriau mân y bore ar Ionawr 14.

Yn dilyn yr ymosodiad bu’r myfyriwr  mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Fe ddeffrodd o goma ac roedd yn medru ymateb i gyfarwyddiadau syml.

Erbyn mis Chwferor roedd ei dad, Gareth Owens , yn dweud wrth golwg360 fod  “pethau wedi symud i’r gorau… symud ymlaen yn sydyn iawn.

“Anhygoel o beth i ddweud y gwir. Rydyn ni’n ymfalchïo fel teulu. Nid yn unig am ei wellhad, ond [hefyd am ofal gwasanaethau iechyd].”