Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd llai o Gymraeg i’w chlywed ar Radio Ceredigion yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni sy’n berchen ar Radio Ceredigion, sef Nation Broadcasting, drwydded gan Ofcom sy’n nodi ei bod yn ofynnol iddyn nhw gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn “gyson”.

Maen nhw yn cynnal un rhaglen Gymraeg yr wythnos, a hynny am awr ar nos Sul am naw.

Hefyd roedd Nation Broadcasting yn dweud wrth golwg360 bod ambell gyflwynydd yn defnyddio pwt o Gymraeg ar eu rhaglenni, ynghyd â chwarae cerddoriaeth Gymraeg.

Pan gafodd Radio Ceredigion ei sefydlu yn 1992, roedd yn darlledu hanner ei chynnwys drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Llai fyth o Gymraeg?

Mae Nation Broadcasting wedi penderfynu na fyddan nhw’n adnewyddu’r drwydded bresennol pan fydd yn dod i ben ym mis Mai 2019.

 Yn hytrach, fe fyddan nhw’n gwneud cais i newid fformat yr orsaf, gan geisio cael gwared ar ofyniad yn y drwydded bresennol sy’n ymwneud â darlledu yn Gymraeg.

Pe bai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo, fe fydd yn golygu na fydd yn ofynnol i Radio Ceredigion fod yn ddwyieithog, ac y bydd canran y gerddoriaeth Gymraeg a fydd yn cael ei chwarae yn lleihau o 20% i 10%.

Hanes Radio Ceredigion

 Fe gafodd Radio Ceredigion ei sefydlu yn 1992, a hynny fel gorsaf radio leol a oedd yn darlledu’n gyfartal trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Roedd yn berchen i’r cwmni Tindle Newspapers yn wreiddiol, ac yn 2010 fe gafodd ei werthu i’r grŵp darlledu radio masnachol, Town and Country Broadcasting.

Mae’r cwmni hwn, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Nation Broadcasting, yn darlledu o orsaf ger y Bont-Faen, a nhw sydd hefyd yn gyfrifol am Radio Sir Benfro, Radio Sir Gâr, Swansea Bay Radio a Bridge FM (Penybont-ar-Ogwr).

Mae Radio Ceredigion i’w glywed yn y rhan fwyaf o orllewin Cymru.

Angen “datganoli darlledu”

 Yn ôl Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae yna fai ar Lywodraeth Prydain am y sefyllfa, wrth iddyn nhw “geisio llacio rheoleiddio” radio masnachol ymhellach.

“Dw i ddim yn ystyried Radio Ceredigion fel gorsaf Gymraeg fel y mae, heb sôn am y posibiliad o hyd yn oed llai o gynnwys lleol,” meddai.

“Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i atal y Torïaid yn Llundain rhag dinistrio darlledu Cymraeg a Chymreig.

“Mae’n gwbl amlwg nad yw’r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Cymru, ond er lles elw cwmnïau mawrion.

“Datganoli darlledu yw’r unig ateb.”

Ymateb Nation Broadcasting

 Yn ôl llefarydd ar ran Nation Broadcasting, fe fyddan nhw’n gwneud cais am drwydded newydd am “resymau masnachol”, ac nid am resymau’n “ymwneud â’r Gymraeg”.

Ond nid oedden nhw’n gallu cadarnhau faint o Gymraeg a fydd yn cael ei darlledu ar yr orsaf yn y dyfodol, os byddan nhw’n llwyddo i gael trwydded newydd.