Dim ond traean o Gymry Cymraeg sy’n dewis siarad Cymraeg â staff wrth ymweld â meddygfeydd, yn ôl ffigurau newydd.

Mae arolwg gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 33% o Gymry Cymraeg sy’n dewis siarad yr iaith â holl staff y meddygfeydd – doctoriaid, nyrsys, derbynyddion.

Ac o’r 67% sy’n dewis peidio, mae dros hanner (56%) yn dweud bod yn well ganddyn nhw ddefnyddio’r Saesneg.

Pobol sy’n defnyddio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd fwyaf tebygol o droi at y Gymraeg (51%), a chleifion Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan sydd lleiaf awyddus (2%).

Cafodd ffigurau Arolwg Cenedlaethol Cymru eu casglu rhwng 2016 a 2017, yn dilyn cyfweliadau â 10,493 o bobol.

Angen “addysgu” cleifion Cymraeg eu hiaith

Mae’r ystadegau yn tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth y Cymry Cymraeg o’u hawliau iaith, yn ôl cyn-Uwch Ddarlithydd Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

“Fel siaradwyr iaith leiafrifol mae rhywun yn tueddu derbyn beth sydd ar gael ar hyd y blynyddoedd oherwydd ein hanes ni,” meddai Gwerfyl Roberts wrth golwg360, gan ddadlau bod y ddarpariaeth yno bellach.

“Mater o godi ymwybyddiaeth [yw hyn] nid yn unig i staff a sefydliadau, ond defnyddwyr hefyd. I ddweud ‘hei, mae newid yn mynd i fod fan hyn’ …”

Mae’n ategu bod angen “addysgu cleifion a defnyddwyr yn ogystal â staff” gan nodi bod y Cymry Cymraeg yn “teimlo’n ddi-rym” – a hynny’n ddiangen.

Hefyd mae Gwerfyl Roberts yn mynegi “siom” at y ffaith bod  gwasanaethau meddygon teulu wedi cael eu hesgeuluso ar y cyfan o Safonau Iaith y Sector Iechyd.

Bydd hyn yn cael effaith ar ddarpariaeth Cymraeg i gleifion, meddai, gan ategu: “Mae hynny yn boen meddwl i lawer ohonom ni.”