Fe fydd joci o Gymro yn ceisio creu hanes fory, trwy ddod yn enillydd ieuenga’ erioed ar ras fawr y Grand National.

Dim ond 17 oed yw James Bowen ond mae eisoes wedi ennill Grand National Cymru ac fe fydd  yn marchogaeth ceffyl o’r enw Shantou Flyer yn Aintree.

Mewn cyfweliad gyda threfnwyr y ras, fe ddywedodd fod gan y ceffyl obaith – “mae wedi bod yno o’r blaen,” meddai. “Er ei fod wedi methu â gorffen, roedd wedi neidio’n dda.”

Dau frawd

Mae James Bowen yn fab i’r hyfforddwr o Sir Benfro, Peter Bowen, ac fe fydd ei frawd hŷn, Sean, hefyd yn cystadlu yn Lerpwl fory, ar geffyl o’r enw Warrior’s Tale.

O’r ddau, Shantou Flyer sy’n gwneud orau gyda’r bwcis ar hyn o bryd, ar 33/1, tra bod Warrior’s Tale yn ôl ar 50/1.

Buywise – yr arwr annisgwyl

Gobaith mawr arall Cymru yw ceffyl o’r enw Buywise sy’n cael ei hyfforddi gan Evan Williams o Fro Morgannwg.

Petai Buywise yn ennill, fe fyddai honno hefyd yn stori fawr, a hithau’n ymddangos bod ei yrfa’n dod i ben.

Ac yntau’n 11 oed, fe enillodd ras i hen geffylau yn Sandown a pherfformio’n dda wedyn, gan oresgyn problemau gyda’i symud a’i neidio.

“Os yw’r ceffyl yn ffit ac yn iach – ac mae e – ac mae’n symud yn well ac yn edrych fel petai’n gallu para’n well, yna pam na wnawn ni roi cynnig arni eto eleni,” meddai Peter Bowen wrth wefan rasio timeform.

Llwyddiant

Mae Evan Williams wedi cael llwyddiant yn y National o’r blaen, gan ddod i’r ffrâm bum gwaith yn olynol rhwng 2009 a 2013.

Roedd Buywise wedi dod yn 12 fed yn y National yn 2016 ond, ar hyn o bryd, 50/1 yw ei bris.