Rhoi pwyslais ar ddenu teuluoedd sydd wedi helpu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gael ei ffigurau ymwelwyr gorau ers 17 mlynedd.

Fe gyhoeddodd yr Ardd heddiw fod bron 162,000 o bobol wedi ymweld â’r atyniad yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwetha’ – y mwya’ ers 2001 yn ei blynyddoedd cynta’.

Roedd y ffigwr yn gynnydd o 20% ar ffigurau’r flwyddyn gynt a 41% ar y flwyddyn cyn honno.

Atyniadau newydd

Teuluoedd a phlant oedd yn gyfrifol am y cyfan bron o’r cynnydd, meddai Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis, gyda datblygiadau newydd yno’n cynnwys Palas Pili Pala a maes chwarae i blant.

Gyda tharged o 180,000 ar gyfer y flwyddyn nesa’ y bwriad yw parhau i gynnig atyniadau newydd, gan gynnwys Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain – yn ôl yr Ardd, roedd yr atyniadau newydd wedi codi’r ffigurau ar unwaith o 25,000.

Yn y blynyddoedd cynnar, fe aeth yr Ardd – sy’n agos at bentre’ Llanaerthne yn Sir Gaerfyrddin – i drafferthion ariannol fwy nag unwaith gan orfod gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w chynnal a, than y cynnydd diweddar, roedd y ffigurau ymwelwyr yn sownd o amgylch y 110,000.