Mae arolwg Prydeinig wedi dangos bod cŵn yn ardal Heddlu Dyfed-Powys ymhlith y mwya’ tebygol i gael eu dwyn.

Dim ond yn ardaloedd dau heddlu arall yng ngwledydd Prydain y mae lefelau’n uwch ac mae’r cynnydd yn Nyfed-Powys yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ yn uwch nag ym mhob ardal arall ond un.

Dim ond 23 o achosion o ddwyn cŵn oedd wedi eu cofnodi yn yr ardal yn 2016; y llynedd roedd y ffigwr wedi codi i 70.

Cofnodion

“Mae gan Heddlu Deyfed-Powys dulliau newydd o gofnodi troseddau,” meddai llefarydd ar ran y llu, wrth gyfiawnhau’r ffigurau.

“Mae hyn yn golygu ein bod yn medru adlewyrchu’r troseddau sydd yn cael eu hadrodd i ni yn well … Mae hyn yn darparu gwasanaeth gwell i’n cymunedau.”

Daeth y ffigyrau i law cwmni yswiriant The Insurance Emporium trwy gais rhyddid gwybodaeth – mae’r cwmni yn cynnig yswiriant i anifeiliaid anwes.

Roedden nhw’n cydnabod y gallai’r ffigurau uwch fod yn arwydd o newid agwedd o fewn yr heddlu.

  • Mewn un achos nodedig yn Sir Gaerfyrddin, fe gafodd 15 o gŵn eu dwyn o un lle yng Nghynwyl Elfed y llynedd.
  • Daeargwn Jack Russell yw targedi mwya poblogaidd y lladron.