Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i ddau achos o ymosodiadau difrifol ar bobol ifanc o fewn oriau i’w gilydd yn ardal Caerdydd.

Fe fu’n rhaid anfon plismyn arfog i un digwyddiad yn ardal Sblot yn y brifddinas ac mae dau ddyn 18 oed ac un bachgen 14 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi anhrefn treisiol.

Fe gafodd dyn 25 oed anafiadau difrifol yn yr ymosodiad a ddigwyddodd ychydig cyn hanner awr wedi tri brynhawn ddoe.

Fe gafodd y stryd ei chau am gyfnod gyda’r heddlu’n defnyddio tariannau terfysg.

Penarth hefyd

Lai nag wyth awr yn ddiweddarach, fe fu ymosodiad ar ddyn ifanc 17 oed ym Mhenarth.

Mae yntau’n cael ei drin yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w wyneb a’i gefn ac mae’r heddlu’n lleol yn galw am dystion.

“Roedd llawer o bobol o gwmpas ar y pryd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Terry Hopkins wrth ofyn i bobol roi gwybod am y “manylion lleiaf”.

Does dim awgrym o gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad ond maen nhw’n dod wrth i bryder gynyddu am drais rhwng pobol ifanc mewn dinasoedd fel Llundain.