Mae cyhoeddiad am arian newydd i ysbyty yng Nghaerfyrddin yn arwydd o ddiffyg cydweithio rhwng y Llywodraeth a’r Bwrdd Iechyd lleol, meddai Maer y dre’.

Ac, er eu bod yn croesawu’r arian yn y tymor byr, mae ef a gwleidydd Ceidwadol yn dweud bod ei fod yn tanseilio dau ymgynghoriad iechyd – un am ddyfodol ysbytai yn y Gorllewin a’r llall am wasanaethau mamolaeth a babanod newydd.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth fuddsoddiad o £25miliwn yn adran enedigaethau Ysbyty Glangwili ar ôl addo ymgynghoriad am wasanaethau o’r fath ac ychydig ddyddiau cyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi a yw holl ddyfodol yr ysbyty mewn peryg.

‘Anhrefn’

“Dyw Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd ddim fel petaen nhw’n gweithio’n ddigon agos gyda’i gilydd,” meddai Alun Lenny, Maer Caerfyrddin.

Ac mae’r llefarydd Ceidwadol ar iechyd yng Nghymru’n dweud bod cynlluniau’r Llywodraeth i drafod gofal babanod trwy’r wlad bellach mewn anrhefn.

Roedd y cyhoeddiad heddiw’n awgrymu bod y penderfyniadau mawr wedi eu gwneud, meddai Angela Burns.

Y cynlluniau

Yr wythnos nesa’ y bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyhoeddi nifer o ddewisiadau ar gyfer ysbytai’r ardal.

Mae gwybodaeth sydd wedi dianc ymlaen llaw’n awgrymu y bydd un dewis yn cynnwys gostwng statws Ysbyty Glangwili.

“I bob pwrpas, mi fyddech yn gwaredu yr ochr glinigol brys ac mae Uned Mamolaeth, dw i’n credu, yn dod i mewn i’r categori yna,” meddai Alun Lenny.

“[Mae’r opsiynau] yn cynnwys cadw Glangwili ar gyfer llawdriniaethau sydd wedi cael eu trefnu, neu fel ‘hwb’ cymunedol – beth bynnag yw hwnnw,” meddai wrth golwg360.

Ysbyty newydd?

Ymhlith dewisiadau sy’n cael eu hystyried, yn ôl Alun Lenny, mae cynllun i adeiladu ysbyty newydd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Mae’n nodi y byddai’n “braf” petai Glangwili yn aros fel y mae, ond petasai ysbyty newydd yn cael ei adeiladu mae’n credu y dylai cael ei osod “yn ffiniau tref Caerfyrddin.”

Dyma’r lle “mwya’ canolog”, meddai, gan fod Caerfyrddin ganol ffordd rhwng Hwlffordd a Llanelli – safleoedd ysbytai eraill y Bwrdd yn y De-orllewin.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd am ymateb.