Mae cwsmer a feirniadodd gaffi yng Nghaerdydd tros agwedd ei staff at y Gymraeg bellach wedi creu canllaw i helpu staff uniaith Saesneg i ddelio yn Gymraeg â chwsmeriaid.

Yn ôl Lois Gwenllian, y drafodaeth yn sgil ei chwynion oedd wedi ei hysbrydoli i gynhyrchu’r canllaw ‘Cymraeg Bar’sydd ar gael ar-lein.

Yn hytrach na bod yn ddig a chwerw, meddai, fe benderfynodd wneud rhywbeth i helpu.

Syniad mewn neges trydar

Roedd Lois Gwenllian wedi cwyno ar wefan gymdeithasol am aelod o staff yn Llaeth & Siwgr yng Nghaerdydd, gan ddweud ei bod yn “ddi-hid” at y Gymraeg, a hynny ar noson pan oedd digwyddiad elusennol Cymraeg ei iaith yn cael ei gynnal yno.

Doedd ymateb cychwynnol y perchennog ddim yn dda chwaith, meddai yn ei chyflwyniad i’r canllaw newydd ond, wrth i ragor o bobol ymuno yn y cwyno, fe sylwodd ar syniad da ymhlith y trydariadau.

“Nododd un defnyddiwr Twitter, @marchglas, nad yw dysgu ‘Cymraeg yn y Bar’ yn anodd ac mai tua ddeuddeg o eiriau yn unig sydd angen eu dysgu. Plannodd hynny hedyn yn fy mhen…

Manylion y canllaw

Mae modd lawrlwytho ‘Cymraeg yn y Bar’ oddi ar y we, a’i roi i staff di-Gymraeg.

Ynghyd â’r deunydd ysgrifenedig, mae Lois Gwenllian wedi mynd ati i gynnig canllaw ychwanegol ar ffurf clipiau sain ar ynganu’r eirfa a’r ymadroddion.

“Bydd gwybod yr ychydig eiriau hyn yn helpu staff di-Gymraeg i fod yn gwrtais, i ddangos eu bod yn ymdrechu ac, yn bwysicach, yn parchu hawl unigolyn i archebu yn Gymraeg,” meddai Lois Gwenllian.