Mae triniaeth canser arbenigol wedi cael ei roi i glaf am y tro cyntaf ym Mhrydain – a hynny mewn canolfan yn ne Cymru.

Cafodd y ‘therapi pelydr proton’ ei roi yng Nghanolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd – ac, yn ôl perchnogion y ganolfan, cwmni Proton Partners, mae hyn yn “garreg filltir bwysig” i driniaeth canser yn y Deyrnas Unedig.

Er bod triniaethau tebyg ar gael i fynd i’r afael a thyfiannau canser, mae’r cwmni’n mynnu bod y dull hwn yn well, gan ei fod yn achosi llai o sgil effeithiau ac yn gwneud llai o ddifrod i rannau o’r corff o amgylch y canser ei hun.

 “Cam sylweddol”

“Mae’n gam sylweddol o ran trawsnewid y ffordd mae cleifion yn cael eu trin,” meddai Prif Swyddog Meddygol Proton Partners, yr Athro Karol Sikora.

“Mae ‘therapi pelydr proton’ wedi cael ei gynnig mewn gwledydd tramor ers blynyddoedd. Felly, mae’n hynod bwysig bod y Deyrnas Unedig yn medru darparu’r fath yma o ofal canser yn awr.”