Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanelli.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i Stryd Siôr yn y dre’ ychydig wedi dau o’r gloch brynhawn ddoe a chafodd y stryd ei chau am gyfnod.

Bellach, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi dechrau ymchwiliad gan ddweud nad oes esboniad hyd yn hyn am y farwolaeth.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw trwy alw 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 165.