Mae’r Cymry’n gwrthod prynu teclynnau clyfar drud i’w cartrefi, yn ôl ymchwil gan gwmni cartrefi David Wilson Homes.

Mae’r cwmni wrthi’n codi tai newydd yng Nghaerdydd, Pontypŵl a’r Bont-faen.

Gofynnodd y cwmni i 2,000 o bobol beth fyddai’n achosi iddyn nhw wrthod prynu offer technolegol o’r radd flaenaf, ac fe ddywedodd 40% ohonyn nhw mai’r gost oedd y prif reswm.

Dywedodd 15% o’r atebion fod gan bobol ofn gosod yr offer, 15% eu bod yn ofni cael eu hacio, a 13% nad oedden nhw’n deall technoleg.

Bargeinion

Dywed cyfarwyddwr gwerthiant y cwmni, Richard Lawson nad oedd yn synnu bod y gost yn troi pobol i ffwrdd oddi wrth y dechnoleg ddiweddaraf.

“Mae bargeinion i’w cael, ond rhaid i chi fod yn ofalus iawn wrth ddewis oherwydd mae gosod a diogelwch yn bryderon go iawn hefyd,” meddai.

“Mewn gwirionedd, mae nifer o achosion o dorri diogelwch wedi ysgogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi canllawiau mewn ymgais i wneud gwasanaethau trwy gyswllt y we yn fwy diogel i’w defnyddio.

“Mae cyfrinair, er enghraifft, yn hollbwysig.”

Mae ymgyrchwyr yn galw am gamau i’w gwneud hi’n haws hefyd i bobol ddileu data personol oddi ar y we.