Mae dyn 80 oed o Abertawe wedi marw yn yr ysbyty ar ôl aros 23 awr am ambiwlans ar ôl cwympo a tharo’i ben yn ei gartref ddydd Mawrth diwethaf.

Roedd oedi hir yn Ysbyty Treforys ar y diwrnod y cafodd ei gludo yno, ac fe fu’n rhaid iddo aros yn yr ambiwlans y tu allan i’r ysbyty am saith awr ar ôl cyrraedd.

Yn ôl meibion John Williams, bu eu tad ar lawr y gegin am 11 awr heb feddyginiaeth.

Fe gafodd ei dderbyn i’r ysbyty am 2.45pm ac roedd staff yn ceisio’i anfon e adre’ erbyn 5.30pm.

Ond bu’n rhaid iddo aros yn yr ysbyty ar ôl cwympo eto ar y ward. Bu farw fore Sul.

Ymateb

Mewn datganiad, dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod staff wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ofalu amdano, ond y byddai “ymchwiliad llawn” yn cael ei gynnal.

 

Doedden nhw ddim yn gwybod pam ei fod e wedi cwympo, meddai’r llefarydd, ac fe gafodd ei dderbyn i ward am ragor o brofion. Ond fe waethygodd ei gyflwr ar ôl cwympo eto.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi estyn eu “cydymdeimlad” i’w deulu.

Dywedodd ei feibion nad ydyn nhw’n beio staff yr ambiwlans na’r ysbyty, ond fod gwendidau sylfaenol yn y Gwasanaeth Iechyd.