Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar i borthladdoedd Cymru gael eu diogelu yn dilyn Brexit.

Yn ôl Ysgrifennydd dros yr Economi, Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fe all unrhyw newid i reolau tollau gael “effaith ar economi Cymru”.

Mae felly yn dweud bod rhaid i nwyddau a phobol allu symud yn ddirwystr trwy borthladdoedd Cymru ar ôl Brexit, gyda’r angen i’r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau.

Rhan bwysig

“Mae porthladdoedd Cymru’n chwarae rhan bwysig ym mywyd masnachol y wlad ac yn economi’r Deyrnas Unedig yn wir, fel porth i hybiau economaidd yng Ngweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig a gweddill Ewrop a’r byd,” meddai Ken Skates.

“Rhaid i unrhyw gytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd gadw trefn ar gyfer symud pobol a nwyddau sydd fan leiaf ddim yn fwy beichus na’r drefn o dan yr Undeb Tollau presennol.”

Porthladdoedd pwysig

Yn ôl y ffigyrau, mae 53.6 miliwn o dunelli o nwyddau’n cael eu trosglwyddo trwy borthladdoedd Cymru, sef rhyw 11% o gyfanswm y Deyrnas Unedig.

Teithiodd 524,000 o loriau a threilars rhwng Gweriniaeth Iwerddon a phorthladdoedd Cymru yn 2016, gyda’r mwyafrif ohonyn nhw drwy borthladd Caergybi.

Yr Undeb Ewropeaidd yw marchnad fwyaf Cymru, gyda 60% o’r holl nwyddau a gafodd ei allforio o Gymru yn 2017, a oedd yn werth £16.3bn, wedi mynd i Ewrop.