Mae wardiau ysbytai yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd a gafodd eu cau oherwydd achosion o ffliw stumog, wedi cael eu hailagor.

Bellach mae wardiau Myrddin a Derwen yn Ysbyty Glangwili; a Ward 7 yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd; ar agor i ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sef yr awdurdod sy’n gyfrifol am yr ysbytai, cafodd y wardiau eu cau er mwyn “rheoli’r” haint, a bellach mae “amseroedd ymweld arferol yn ôl mewn grym”.

Mae’r ffliw stumog – gastro-enteritis – yn gallu achosi dolur rhydd a chyfog, ac mae’n bosib ei ledaenu trwy ddod i gysylltiad â dioddefwyr, trwy ddŵr a bwyd.

Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar gleifion bregus.