Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sefydlu gwasanaeth newydd sy’n rhoi cymorth i’r rheiny sy’n dioddef yn sgil troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r gwasanaeth i ddioddefwyr a thystion, sef Goleudy, wedi cael ei greu ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Chomisiynydd yr Heddlu, Dafydd Llywelyn, ac mae wedi bod ar gael i bobol ers dechrau’r mis (Ebrill 1).

Y nod yw cynnig cefnogaeth i’r rheiny sydd wedi dioddef o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, boed y rheiny wedi’u hadrodd wrth yr heddlu neu beidio.

Mae’r gwasanaeth hwn wedi galluogi Heddlu Dyfed-Powys i fuddsoddi ymhellach mewn hyfforddi staff, ynghyd â chynyddu’r ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwneud pobol yn “gryfach”

“Mae cefnogaeth bersonol, ymarferol ac emosiynol yn cael ei chynnig i helpu’r bobol hyn oroesi troseddau, gan eu gwneud yn gryfach,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Mae’n bwysig bod yr un lefel o gefnogaeth ar gael i ddioddefwyr troseddau a dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac fe fydd hyn bellach yn cael ei gyflawni.

“Fe fydd arbenigwyr Goleudy yn darparu proses lyfn o gefnogaeth i unigolion, gyda’i hamgylchiadau yn golygu ei bod nhw o bosib yn amrywio rhwng bod yn ddioddefwyr troseddau neu’n ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.”