Mae pedwerydd unigolyn wedi cael ei gyhuddo yn gysylltiedig â llofruddiaeth John ‘Jack’ Williams, 67, yn Abertawe.

Mae Jonathan Donne, 41, o Abertawe, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio, ac mi fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth (Ebrill 10).

Hyd yma mae dau berson arall, Gemma Owens, 31, a Simon Cairns, 45, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio.

Ac mae pedwerydd unigolyn, Faisal Kadir, 57, wedi cael ei gyhuddo o gynorthwyo troseddwr. Mae pob un wedi’u cadw yn y ddalfa.

Bellach mae Heddlu De Cymru wedi cael gafael ar bawb yr oedden nhw’n bwriadu eu harestio, ond mae’r llu yn parhau i apelio am wybodaeth.

Daeth swyddogion o hyd i gorff John ‘Jack’ Williams yn ei gartref yn ardal Pentrechwyth ar Fawrth 31.