Mae’r helynt ynglŷn ag enwi ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’ wedi digwydd o ganlyniad i “ddiffygion” deddfwriaeth ym Mae Caerdydd, yn ôl Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Fe gododd ffrae fawr yr wythnos ddiwethaf ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, gyhoeddi y byddai ailenwi un o’r pontydd dros afon Hafren ar ôl mab hynaf Brenhines Lloegr, yn “deyrnged addas” iddo.

Ond, yn ôl yr Athro David Thorne, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, pe byddai deddf wedi cael ei phasio gan Gynulliad Cymru i ddiogelu enwau hanesyddol yng Nghymru, ni fyddai’r helynt hwn wedi codi.

Mae’n cyfeirio at gynnig a gafodd ei gyflwyno y llynedd gan yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd, a fyddai wedi diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru ym mhob iaith. Ond ni chafodd ei chymeradwyo.

“Methiant” Bae Caerdydd

“Ddwy flynedd yn ôl,” meddai David Thorne wrth golwg360, “fe basiwyd y Ddeddf Treftadaeth Hanesyddol, oedd ddim yn rhoi dim amddiffyniad o gwbwl i enwau lleoedd, a llynedd wedyn fe geisiodd mesur Dai Lloyd unioni’r cam yna, ac fe fethodd yna hefyd.

“A phetai’r mesur, a phe bai’r ddeddf, wedi derbyn argymhellion Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, fyddai’r helynt ddim wedi codi.”

Wrth ymateb i’r cwestiwn os yw’r Gymdeithas am gymryd camau yn erbyn y penderfyniad diweddaraf wedyn, mae’n dweud nad oes “dim wedi’i drefnu eto”, a’i bod hi braidd yn “hwyr yn y dydd” erbyn hyn.